Ymholiadau Aml
Pryd fydd y gwersi cerdd yn dechrau?
Unwaith y byddwch wedi talu’r blaendal, bydd tiwtor yn cael ei ddynodi i ddysgu’r wers. Byddwch yn derbyn e-bost unwaith y byddant wedi cadarnhau cyfnod yn eu hamserlen.
Pwy fydd yn eu dysgu?
Mae gennym dîm mawr profiadol o ymarferwyr cerdd ac addysgwyr proffesiynol sy’n gweithio fel aelodau o’r corff cydweithredol. Mae gan bob aelod dystysgrif uwch y Gwasanaeth Datgelu ac Atal (DBS) ac yn aelodau o’r Cyngor Gweithlu Addysg gan ymgymryd ag ymarfer Diogelu fel rhan o’u haelodaeth.
A fydd y gwersi ar yr un diwrnod bob wythnos?
Dichon y bydd y gwersi ar yr un diwrnod bob wythnos, ond gall eich tiwtor dynodedig gylchdroi’r gwersi hyn fel nad yw eich plentyn yn colli’r un pwnc craidd bob wythnos. Gellid fod newidiadau hefyd er mwyn addasu i amserlen ysgol eich plentyn.
Faint o wersi fydd fy mhlentyn yn ei gael ym mhob blwyddyn academaidd?
Rydym yn cynnig 30 gwers mewn blwyddyn academaidd. Rhennir rhain yn aml yn 10 gwers y tymor, ond gall amrywio yn ôl patrwm gwahanol pob blwyddyn academaidd. Fodd bynnag, rydym yn gwarantu darparu 30 gwers os ydych yn cofrestru ym mis Medi. Ar sail ein patrwm arferol, os ydych yn cofrestru ganol tymor neu ar ddechrau tymor diweddarach yn y flwyddyn academaidd, bydd nifer y gwersi yn llai, ond cyfrifir hyn yn eich bil, a dim ond am y gwersi a dderbynnir y byddwch yn talu.
A fydd fy mhlentyn angen offeryn?
Na fydd, gan ein bod ni’n darparu offeryn i’ch plentyn ddysgu a mynd ag o gartref i ymarfer, ar wahân i Biano a Thelyn. Wrth i’ch plentyn ddatblygu ar ei siwrnai gerddorol, rydym yn annog rhieni a gofalwyr i ystyried buddsoddi mewn offeryn eu hunain i’w plentyn.
Faint yw hyd y gwersi?
Rydym yn cynnig 3 pecyn o wersi 15, 20, a 30 munud, gyda’r rhan fwyaf o rieni yn dewis y pecyn 30 munud. Mae ein costau am wersi gyda’r isaf yng Nghymru.
A fydd y gwersi yn ystod amser ysgol?
Byddant; fel darparwr offeryn dewisedig eich awdurdod lleol, dim ond yn yr ysgol ac yn ystod oriau ysgol yr ydym yn darparu gwersi.
Beth os nad yw fy mhlentyn yn yr ysgol neu i ffwrdd ar drip?
Os nad yw eich plentyn yn yr ysgol am unrhyw reswm, rydym angen 24 awr o rybudd; fel arall, ystyrir y wers fel un a gollwyd ac felly i’w thalu amdani. Hefyd, rhowch wybod i ni am unrhyw dripiau ysgol mewn da bryd fel y gallwn adael i’r tiwtor wybod na fydd eich plentyn yn yr ysgol y diwrnod hwnnw.
Sut y gallaf gynorthwyo fy mhlentyn gyda chynnydd offerynnol?
Er mwyn dod yn fedrus gydag unrhyw offeryn, mae angen trefn ymarfer cyson gartref. Felly, anogwch eich plentyn i ymgymryd ag ymarfer rheolaidd o’r defnydd cerddorol sydd ganddynt. Bydd tiwtor eich plentyn yn gosod gwaith ymarfer ym mhob gwers. Gallai tiwtor eich plentyn eich annog i brynu llyfr cerdd am offeryn eich plentyn a/neu ddarnau arholiad i weithio arnynt.
Sut a phryd y byddaf yn talu am wersi cerdd offerynnol fy mhlentyn?
Unwaith y byddwch wedi talu’r blaendal, rydym yn cynnig sawl dull i chi dalu am wersi cerdd offerynnol eich plentyn, yn amrywio o dalu’r cyfan ar y dechrau i gynllun talu’n fisol.
A fydd fy mhlentyn yn cael chwarae mewn ensembl?
Bydd; unwaith y bydd eich plentyn wedi cyrraedd safon addas ar yr offeryn, bydd eich tiwtor dynodedig yn eich cyfeirio at yr ensembl mwyaf perthnasol.
Cysylltwch â Ni
Need More Help?
E-bost atom
note@denbighshiremusic.com
Ymweld â Ni
Uned 1, Stad Fasnachol Spencer
Ffordd Y Rhyl, Dinbych
Sir Ddinbych, LL16 5TQ
Galw Ni
01745 813542