Ysgolion

Rydym yn gweithio gydag ysgolion mewn 2 ffordd: cynorthwyo’r rhai sy’n rheoli gwersi ar ran y rhieni, neu hwyluso pob agwedd o logi gwersi trwy ddelio gyda rhieni yn uniongyrchol.

ANUNIONGYRCHOL

Darpariaeth dan Reolaeth yr Ysgol

Bydd rhan fwya’r ysgolion yn rheoli gwersi eu disgyblion eu hunain. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl ysgolion ac yn darparu’r deunydd marchnata, templed llythyrau ac ati ar gyfer y rhai sy’n marchnata a gweinyddu’r gwersi eu hunain er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rheoli gwersi’r disgyblion yn rhwydd.

Bydd gan lawer o ysgolion eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer rheoli llogi a thalu gan eu rhieni, boed hynny ar gyfer cinio ysgol neu dripiau dosbarth. Mae ein pecynnau gwersi cerdd yn syml eu trefn a gellir eu cynnwys mewn unrhyw weithdrefn sydd gennych eisoes yn eich ysgol.

Bydd eich ysgol yn derbyn y cais llogi a’r taliadau ar gyfer y gwersi cerdd; rhowch wybod i ni faint o oriau o hyfforddiant yr ydych ei angen ar gyfer pa offeryn, ac fe wnawn ni ofalu am y gweddill. Er mwyn trafod sut y gall eich ysgol gynnig gwersi cerdd i’ch disgyblion, cysylltwch heddiw a bydd ein Pennaeth Gwasanaeth yn fwy na pharod i drafod pa becynnau a fyddai’n addas ar gyfer anghenion eich ysgol.

UNIONGYRCHOL

Darpariaeth wedi’i Reoli gan CCSDd

Rydym yn deall fod pob ysgol yn wynebu ei heriau unigryw ei hunan. Yma yn CCSDd rydym eisiau sicrhau fod pob disgybl ledled y sir yn cael mynediad i ddarpariaeth cerdd o safon, hyd yn oed pan fo ysgolion yn wynebu dewisiadau anodd neu’n methu trefnu’r gwersi.

Rydym yn gallu cynnig i unrhyw ysgol sy’n ei ddymuno ein pecyn gweinyddol a fyddai’n trefnu’r holl wersi cerdd trwy dderbyn pob llogi, ymholiad neu daliad gan rieni.

Mae gennym system benodol yn ei lle a elwir yn Opus, sy’n gweithredu fel porth ar-lein i rieni, lle gallant logi gwersi cerdd, cadw trefn a thalu anfonebau, a gweld pob neges gennym ni am wersi cerdd eu plant. Yn wir, gall y system hon roi mynediad i chi at unrhyw logi a wneir gan eich ysgol a chyfle i weld y sefyllfa bresennol ar yr union adeg honno.

Er mwyn trafod prynu ein pecyn gweinyddol, cysylltwch heddiw a bydd ein Pennaeth Gwasanaeth yn fwy na pharod i drafod y dewisiadau i chi a’ch ysgol.

System Opus

Mae Opus yn darparu un safle-am-bopeth i rieni lle gallant logi gwersi cerdd mewn unrhyw ysgol restredig, yn ogystal â lle i logi aelodaeth ensembl neu wasanaethau ychwanegol fel lle ar gyrsiau haf, ymweliad arholiad ac ati. Gall Opus ymdrin â mwy na llogi’n unig; mae’n rhoi llwyfan 24 awr i rieni weld a thalu anfonebau, gweld negeseuon gennym am wersi cerdd eu plant, a rheoli pob agwedd arall o’n gwasanaethau yn rhwydd.

Nid dim ond i rieni y mae Opus. Mae’r llwyfan ar-lein yn hwyluso tryloywder a chyfathrebu rhwng ein swyddfa a swyddfa eich ysgol. Gall ysgolion gael mynediad i’n llwyfan Opus er mwyn gweld unrhyw logi a ddaw gan eu rhieni, neu logi oriau tiwtoriaid os ydynt yn gweinyddu’r gwersi cerdd yn eu hysgol.

}
Rheoli gwasanaethau unrhyw bryd
Gweld a thalu anfonebau ar-lein
i
Pob gwybodaeth mewn un man

POB YSGOL

Beth i’w Ddisgwyl

Cyswllt Canolog

Ein swyddfa yw eich man cyswllt canolog, yn darparu rhywun y gallwch ei g/alw neu dderbyn e-bost gydag unrhyw ymholiad am wersi cerdd, neu diwtoriaid yn dod i’ch ysgol.

R

Sicrwydd Cydymffurfio

Rhaid i’n holl diwtoriaid gael tystysgrifau GDG dilys a dilyn hyfforddiant diogelu a gofal plant cyson. Dyma ddarparu sicrwydd i chi fod eich disgyblion mewn dwylo diogel.

Arferion COVID-Ddiogel

Mae ein holl diwtoriaid wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth COVID, ac nid yr hyfforddiant yn unig ond yr offer yn ei le er mwyn cyflwyno gwersi cerdd yn eich ysgol mor ddiogel â phosibl.

Mynediad at Adnoddau

Rydym yn cynnig mynediad i bob ysgol at borth Gwasanaethau Ysgol, sy’n llawn o ddeunydd marchnata, templed ar gyfer llythyrau at rieni, ac ati – gan eich arbed rhag trafferthion gweinyddu gwersi cerdd eich ysgol.

Mynediad at Offerynnau

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol, ac felly’n gyfrifol am yr holl offerynnau sy’n eiddo i’r sir. Byddai unrhyw un o’ch disgyblion sy’n derbyn gwersi gennym ni yn cael mynediad at offeryn cerdd o gyflenwad y sir i’w ddefnyddio gartref er mwyn ymarfer.

Mynediad at Wasanaethau Eraill

Rydym yn cynnig mwy na gwersi cerdd yn unig. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau i ysgolion, yn cynnwys cymorth dosbarth, prosiectau dosbarth-cyfan, cefnogaeth ychwanegol ar gyfer cyngherddau neu ensemblau ysgol. Cysylltwch â ni i drafod gyda pha brosiect y gallwn gynorthwyo eich ysgol heddiw.